The pictures say it all! We had a magical day!
Mae'r lluniau yn dweud y cyfan! Cawsom ddiwrnod i'r brenin! The pictures say it all! We had a magical day!
0 Comments
Ein thema y tymor hwn yw Byw'n Iach, sy'n cynnwys rhoi ffocws penodol ar stori James a'r Eirinen Wlanog gan yr awdur enwog Roald Dahl. Wythnos nesaf byddwn yn dathlu Diwrnod Roald Dahl (bydd llythyr ar ei ffordd i chi yn fuan!) Yn ystod y tymor cawn gyfle i graffu ar y nofel yma, dysgu am gymeriadau lliwgar Roald Dahl, a dysgu mwy am hanes Roald Dahl ei hun. Byddwn hefyd yn mynd ati i ddysgu sut i fyw'n iach, gan ddysgu am y corff, sut i greu brechdan iach, pwysigrwydd ymarfer corff - ac wrth gwrs bydd gwersi nofio yn ail-ddechrau y tymor hwn hefyd! Mae tymor cyffrous iawn o'n blaenau....! Our topic this term is Healthy Living, and as part of this topic we will be studying 'James and The Giant Peach' by the famous author Roald Dahl. Next week we will be celebrating Roald Dahl day with a day full of fun activties (you will receive a letter with more details soon). Duting this term we will be learning about Roald Dahl himself, his wonderful characters and learning about the adventures of James. We will also be learning how to lead a healthy lifestyle, including learning about the human body, how to make a healthy sandwich and the importance of regular physical activity. Swimming lessons start this term too - what an exciting term we have a look forward to!
Gwaith Cartref Bl 3 a 4 y penwythnos diwethaf oedd ysgrifennu BLOG ar gyfer ein Blog Dosbarth. Darllenwch isod am hynt a helyn ein ymweliad arbennig! :)
Year 3 and 4's homework last weekend was to write a blog; scroll down to read more details about our wonderful trip! :) Ar Orffennaf y 4ydd aeth blwyddyn 3 a 4 i Acwariwm Bywyd Môr a Lego Land. Ar ôl cofrestru aethom gyda’n partneriaid tuag at y bws. Roedd pawb yn llawn cyffro ac yn sgwrsio yn hapus ar ein siwrne. O’r diwedd ar ôl siwrne hir (tua awr a hanner) cyrhaeddom yr Acwariwm. Yn gyntaf, rhoddom ni ein bagiau mewn trolis a chawsom lun gyda’n gilydd yn ein sbectol ddŵr. Mi oedd yr Acwariwm mor cŵl!!! Cawsom lyfr bach cwis i’w lenwi ar ein taith o gwmpas yr Acwariwm. Mi oedd yna lawer o bethau i’w ddysgu, e.e. mae 70miliwn o siarcod bob blwyddyn yn cael eu lladd ar gyfer eu hesgyll. Gwelsom lawer o greaduriaid y môr - Octopws, Seren fôr, Crwban, Pysgodyn Clown, Stingray. Roedd y tywydd mor braf eisteddom tu allan i fwyta ein cinio drws nesaf i’r ffynnon ddŵr – bendigedig!!! Ar ôl ein cinio, aethom i LEGO LAND. Fi wnaeth Proffeser Bric siarad gyda ni i egluro sut roedd Lego yn cael eu gwneud. Roedd yn rhaid i bawb neidio a gweiddi i wneud i’r peiriannau anferth - sydd yn gwneud y Lego - i weithio. Aethom ar daith i edrych ar fodelau lliwgar a gwych a hefyd i gael hwyl a sbri ar y gemau a’r reids cyffrous. Yn anffodus daeth yr amser i fynd nôl i’r Ysgol. Am drip bythgofiadwy! Cerys (Blwyddyn 4) Firstly, we went to Sea life and had our picture taken, we wore cardboard goggles and had booklets you could stamp pictures in. A woman showed us some baby turtles and a mummy turtle, the baby turtles walked along sand, it was so realistic! We walked through a door which led us to some fish in some big tanks. Then we went to a dark room with glass by the roof in side, there were small fish inside. Everyone went through a tunnel with fish even a sea turtle it was epic! We went to a jellyfish tank the jelly fish were wiggly and even changed colour. After that, we went to a game you had to collect trash and save the fish. Then we went to the gift shop and exited. Next, we went to have lunch everyone sat down by the fountain and ate their lunch, I got a tiny bit wet because I sat by the fountain with Rowan and Martyn... they got wet too! Then we went to Lego land and we saw Lego men. We went up 3 stair cases. We entered a room a man was in there with a machine and it had something called Lego that turned into a block of Lego. Later, we went on a ride and saved the princess from the Orcs. We went to mini land and then went onto do activities. Finally, we finished our tour and went to the shop at Sea Life; I bought real gemstones and a shark grabber. We went on the bus back to school. It was a wonderful, memorable day! By Edward (Year 4) Wel son am wythnos i'w chofio! Cawsom hwyl a sbri yn dathlu Wythnos Cymru Cwl wythnos diwethaf, gyda gweithagreddau di-ri. Daeth Mr Urdd i'n gweld bore Llun ac aeth criw ohonom i chwarae mewn twrnament pel-droed Ysgolion Cymraeg Sir y Fflint yn Ysgol Mornant a dod yn ail! Roedd yn brynhawn brawf iawn yn yr haul a cawsom lawer o hwyl yn chwarae ac yn cymdeithasu gyda'r plant o'r ysgolion Cymraeg eraill.
Fe wnaeth llawer ohonom wisgo i fyny fel ein arwyr Cymreig ddydd Mawrth - Caradog, Dona Direidi a Sali Mali i enwi ychydig! Buom hefyd yn brysur yn addurno ein dosbarthiadau a'r ysgol yn goch, gwyn a gwyrdd er mwyn paratoi ar gyfer Esiteddfod yr Urdd yn y Fflint wythnos nesaf. Un o'n uchafbwyntiau fel Bl 3a4 oedd pan ddaeth Mr ap Sion draw i adrodd hanes y Cadi Ha. Cawsom gyfle i ganu a dawnsio - mae clip byr ohonom ar Trydar yr ysgol - @ysgolgwenffrwd - ewch i'w weld! Diolch yn fawr i Mr ap Sion am roi ei amser, roedd wir yn brynhawn gwerth chweil! Un o'n hoff atgofion o Wythnos Cymru Cwl yw ymweliad ELIN FFLUR ar fore Gwener. Roeddem i gyd yn geg agored wrth iddi ganu Ar Lan y Mor a Harbwr Diogel. Profiad bythgofiadwy!! Diolch yn fawr i'n rhieni a'r athrawon a phawb a ddaeth i fod yn rhan o'n Wythnos Cymru Cwl - roedd wir yn wythnos penigamp! O.N. Hoffem ddiolch yn fawr i Mr Kemp am ddod i mewn wythnos yma i siarad am ei waith fel milefdyddyg - fe wnaethom ddysgu llawer iawn ac mae llawer ohonom yn frwdfrydig am fod yn filfeddyg pan fyddwn ni yn hyn nawr! Diolch o galon i chi am roi eich amser. Ewch ar ein TRYDAR i weld mwy o luniau! What a busy week we've had! We had a busy but brilliant 'It's Cool to be Welsh' week with plenty of activities to celebrate everything Welsh. Mr Urdd came to see us on Monday morning, and a group of us went to play football at Ysgol Mornant in the afternoon. We came 2nd out of all the Welsh schools in Flintshire and it was a great opportunity to socalise in Welsh with the other children too. Many of us came to school dressed as our favourite heroes on Tuesday, including the Celtic warrior Caradog, Dona Direidi and Sali Mali. We also decorated the class and school in red, white and green in preparation for the Eisteddfod - we can't wait to visit next week! Without a doubt, a highlight for us was Tuesday afternoon when Mr ap Sion came to talk about the Cadi Ha festival. We were singing and dancing all afternoon - go to our school twitter account @ysgolgwenffrwd to see a clip of us singing! We wish to thank Mr ap Sion for his time and enthusiasm - we really did enjoy every minute! Most certainly one of our favourite memories from Wythnos Cymru Cwl is when Elin Fflur came to visit us on Friday morning. We were all star-struck!! All eyes were on her as she sang beautifully - it was truly special to have a celebrity visit us at Ysgol Gwenffrwd! We wish to thank all the teachers for organising Wythnos Cymru Cwl and our parents for supporting this incredibly special week. We can't wait to do it all over again next year! P.S. This week we had an incredibly interesting visit from Mr Kemp who works as a vet. He told us all about his work as a vet, his love of farm animals, and why learning and speaking Welsh is so important to him. Thank you so much for giving your time to come and visit us - we are all inspired to be vets now! Have a look at our school twitter for more pictures! Mae tymor yr haf wedi cyrraedd ac o'r diwedd rydym wedi cael cip ar ychydig o heulwen hefyd! Yma ym Mlwyddyn 3 a 4 rydym wedi mynd i afael ar ein thema yn syth, gan ganolbwyntio ar y Sw. Rydym wedi bod yn mynegi ein barn ar gael Sw yn Nhreffynnon - ac ar ol cryn dipyn o waith trafod ac ymchwilio , mae mwyafrif Bl 3a4 yn erbyn cynllun o'r fath! Wythnos yma, buom yn brysur yn gweithio ar brosiect rhifedd; buom yn edrych ar bamffled gwybodaeth er mwyn trefnu trip i Sw Gaer, gan gyfrifo costau'r diwrnod. Yn ychwanegol i hyn, buom yn creu map o'n sw delfrydol gan nodi cyfesurynnau y gwahanol ardaloedd o fewn y sw. Bu ambell un ohonom yn crafu ein pen gyda'r dasg ymresymu wrth i ni geisio lleoli gwahanol anifeiliaid i sw, ond roedd yn gyfle da i ni feddwl am yr ochr mathemategol a'r ochr 'byd-real' o gynllunio sw. Uchafbwynt y tymor hyd yn hyn oedd plannu'r hadau rocedi a gawsom gan Tim Peake. Mae bod yn rhan o'r arbrawf yma wir yn gyfle unigryw, ac rydym yn edrych ymlaen i weld canlyniadau'r arbrawf wrth i'r hadau ddechrau tyfu dros yr wythnos nesaf! Rydym hefyd wedi bod yn plannu gwahanol lysiau yn ein ardal garddio tu allan - rhaid croesi bysedd am ddigon o heulwen (ac ychydig o law wrth gwrs!) iddynt dyfu nawr! Well well, the Summer term is here and we are finally seeing some sun! We are already thoroughly engaged with our Heads and Tails theme, concentrating first on Zoos. Following some research and plentyn of classroom discussion, we have realised that most of Year 3 and 4 would be against building a zoo near Holywell. We have also been involved in an interesting project calculating the cost of a trip to Chester Zoo, as well as drawing our own 'ideal zoo' map, using co-ordinates to note the locations of various attractions. Many of us were deep in thought during our reasoning task this week, where we had a list of different animal attractions to locate within a grid. The attractions needed a certain amount of space each, therefore we used our grid to plan it all out.The group discussions during these tasks were very interesting; many mathematical and 'real-life' reasoning skills were used and developed. The highlight so far might be planning the rocket seeds we have recieved from Tim Peake. We can't wait to see the results from this 'out of this world' experiment! We have also been planting various vegetables in our raised beds - let's hope there'll be plenty of sunshine for them to grow! Daeth Bl 4 yn ol i'r ysgol b'nawn Mercher yn llawn storiau a chyffro am eu hamser yng Nglan Llyn. Roeddynt wedi blino (yn naturiol) ond wrth eu boddau yn adrodd yr hanes. Cawsant gyfle i fynd i ganwio, dringo, mentro ar y cwrs rhaffau, adeiladu rafft a rhoi cynnig ar saethyddiaeth. Roedd y noweithiau hefyd yn brysur gyda chyfle i gymdeithasu yn y Gymraeg gyda phlant eraill o Ysgolion Cymraeg Sir y Fflint a dawnsio yn y disgo.
Cafodd pawb amser penigamp yno - diolch yn fawr i'r athrawon a aeth gyda'r plant a hefyd i staff Glan Llyn! Although a little tired, Year 4 have been busy sharing their experiences from Glan Llyn. They all had a brilliant time there, enjoying a range of activities such as canoeing, climbing, raft building and turning their hand to archery! It was lovely to see all the children socialising with their peers from the other Welsh Flintshire Schools. A big thank you to our staff who went with the children and to the whole team at Glan Llyn. Cawsom ddiwrnod penigamp ddoe - diwrnod CELTIAID V RHUFEINIAID! Buom yn brysur yn paratoi y neuadd gydag amrywiaeth o ardaloedd i ddangos ein gwaith megis ein platiau Celtiadd a'n gwaith geirio gwych. Fe wnaethom rannu ein hoff lyfrau gyda'r rhieni, ac roedd rhai ohonom yn ddigon lwcus i gael peintio ein gwynebau! Cawsom sioe ffasiwn a chystadleuaeth taflu gwaywffon agos iawn. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i'n cogyddes dalentog am y Cinio Celtaidd; roedd y Cawl Cyw Iar Celtaidd a'r Myffin Ffrwythau yn flasus tu hwnt! Diolch o galon!
Uchafbwynt y diwrnod oedd y frwydr fawr rhwng y Celtiaid a'r Rhufeiniaid. Roedd pawb wrth eu boddau! Diolch i'r holl rieni a ddaeth i rannu yn yr hwyl! Rydym wedi mwynhau'r thema yma yn fawr iawn (fel y gwelsoch ddoe!) :) We all had a fantastic day yesterday as it was our CELTS vs ROMANS day. We set up various activities and tables showcasing our work in the hall, and shared our favourite factual books about the Celts and Romans. We all enjoyed the fashion show at the beginning, and the teachers were really impressed with the effort we had made with our costumes. We wish to thank our cook for the wonderful Celtic lunch; the Celtic Chicken Broth and Forest Fruit Muffins went down a treat! We really do appreciate it! The highlight of the day, however, was our Celts V Romans battle at the end of the day! It was epic! Thank you to all the parents for coming along to share in our fun! :) Wel am hanner tymor prysur. Rydym wrth ein boddau gyda'n thema newydd, sef Celtiaid V Rhufeiniaid. Yn ystod yr hanner tymor diwethaf, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar y Celtiaid. Fe wnaethom ddechrau'r tymor gyda perfformiad dramatig gan gwmni Creu Cymeriad. Buddug oedd enw'r sioe ac roedd yn ffordd wych i ni ddysgu am hynt a helynt un o arweinwyr y Celtiaid, Buddug. Cawsom oll gyfle i actio, a cafodd ambell un ohonom wisgo i fyny hefyd!
Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn creu Bryngaer Celtaidd ar yr ap 'Minecraft' - mae llawer ohonom wedi bod yn creu Bryngaerau Celtaidd adref hefyd! Fel paratoad ar gyfer ein cystadleuaeth Celf i'r Eisteddfod Ysgol rydym hefyd wedi bod yn dylunio ac yn creu plât Celtaidd. Rydym i gyd yn edrych ymlaen i fynd a'n platiau adref i ddangos i'n rhieni! Bydd lluniau ohonynt ar ein gwefan yn fuan. Fel rhan o'n gwaith ar y Celtiaid, fe wnaethom wneud ychydig o waith llythrennedd a rhifedd yn ymwneud â gwledydd Celtaidd. Buom yn creu graffiau bar yn dangos canran y boblogaeth sy'n siarad yr iaith Geltaidd yn y gwledydd; ac arweiniodd hyn at sgwrs ddiddorol am ein dyletswydd ni i gadw'r iaith Gymraeg yn fyw. Hoffem ddiolch yn fawr i Mr David Evans am ddod i'r ysgol i wneud gweithdy Magntedd gyda ni. Roeddem wrth ein boddau yn cael arbrofi gyda gwahanol fagnetau, ac roedd gennym lawer o gwestiynau (ac atebion!) diddorol iddo. Mae Lowri Mytton hefyd wedi ymweld â'n dosbarthiadau. Bu hi'n ein helpu i ddysgu am yr Iesu, ac yn benodol rhai o ddamhegion y Beibl. Edrychwn ymlaen i dy weld eto ar ôl y gwyliau, Lowri! Mae llawer ohonom wedi bod yn brysur iawn yn cymryd rhan mewn gweithagreddau all-gyrsiol megis twrnament pêl rhwyd, gala nofio yr Urdd ac ymarferion Sioe Cynradd Eisteddfod Yr Urdd Fflint 2016. Amser prysur iawn i bawb ond rydym yn mwynhau bob munud! Hwyl am y tro Blwyddyn 3 a 4 Ysgol Gwenffrwd What a busy half term it's been! We are all enthralled with our new topic: Celts Vs Romans. During this past few weeks, we have been focusing our learning on the Celts. We began our term with a dramatic performance about Boudicca. We all enjoyed role-playing the different characters, especially when some of us were chosen to dress up too! Recently, we have been busy creating a Celtic Hillfort on Minecraft; many of us have been making them at home too! Another Celtic themed activity we have really enjoyed recently is designing and creating our very own Celtic patterns. Some patterns were symmetrical, others with all sorts of different 2D shapes and patterns. We are now looking forward to take them home to show our families. Pictures of our craft-work will be up on our website soon! As part of our Celts topic, we have also been using our literacy and numeracy skills to learn about the Celtic countries. We learned about all the similar words in the different Celtic languages, and created bar graphs to show the % of people from those countries speaking the Celtic language. This led to an interesting class discussion, about how we want to keep Wales' percentage up, and how it is up to us to keep the Welsh language alive. We would like to sincerely thank Mr David Evans for a fascinating magnetism workshop. We enjoyed experimenting with the magnets, and had a lot of interesting questions (and answers) for him! Lowri Mytton has also visited us recently, and has been conducting drama workshops for us, during which we learned about Jesus and some of the parables in the Bible. Many of us have been very busy with extra-curricular activities such as a swimming gala, a netball tournament, and Eisteddfod yr Urdd practises. A very busy time for us all, but we are enjoying every minute! :) Goodbye for now Year 3 and 4 Ysgol Gwenffrwd |
croeso i flog
|