Daeth Bl 4 yn ol i'r ysgol b'nawn Mercher yn llawn storiau a chyffro am eu hamser yng Nglan Llyn. Roeddynt wedi blino (yn naturiol) ond wrth eu boddau yn adrodd yr hanes. Cawsant gyfle i fynd i ganwio, dringo, mentro ar y cwrs rhaffau, adeiladu rafft a rhoi cynnig ar saethyddiaeth. Roedd y noweithiau hefyd yn brysur gyda chyfle i gymdeithasu yn y Gymraeg gyda phlant eraill o Ysgolion Cymraeg Sir y Fflint a dawnsio yn y disgo.
Cafodd pawb amser penigamp yno - diolch yn fawr i'r athrawon a aeth gyda'r plant a hefyd i staff Glan Llyn! Although a little tired, Year 4 have been busy sharing their experiences from Glan Llyn. They all had a brilliant time there, enjoying a range of activities such as canoeing, climbing, raft building and turning their hand to archery! It was lovely to see all the children socialising with their peers from the other Welsh Flintshire Schools. A big thank you to our staff who went with the children and to the whole team at Glan Llyn. Cawsom ddiwrnod penigamp ddoe - diwrnod CELTIAID V RHUFEINIAID! Buom yn brysur yn paratoi y neuadd gydag amrywiaeth o ardaloedd i ddangos ein gwaith megis ein platiau Celtiadd a'n gwaith geirio gwych. Fe wnaethom rannu ein hoff lyfrau gyda'r rhieni, ac roedd rhai ohonom yn ddigon lwcus i gael peintio ein gwynebau! Cawsom sioe ffasiwn a chystadleuaeth taflu gwaywffon agos iawn. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i'n cogyddes dalentog am y Cinio Celtaidd; roedd y Cawl Cyw Iar Celtaidd a'r Myffin Ffrwythau yn flasus tu hwnt! Diolch o galon!
Uchafbwynt y diwrnod oedd y frwydr fawr rhwng y Celtiaid a'r Rhufeiniaid. Roedd pawb wrth eu boddau! Diolch i'r holl rieni a ddaeth i rannu yn yr hwyl! Rydym wedi mwynhau'r thema yma yn fawr iawn (fel y gwelsoch ddoe!) :) We all had a fantastic day yesterday as it was our CELTS vs ROMANS day. We set up various activities and tables showcasing our work in the hall, and shared our favourite factual books about the Celts and Romans. We all enjoyed the fashion show at the beginning, and the teachers were really impressed with the effort we had made with our costumes. We wish to thank our cook for the wonderful Celtic lunch; the Celtic Chicken Broth and Forest Fruit Muffins went down a treat! We really do appreciate it! The highlight of the day, however, was our Celts V Romans battle at the end of the day! It was epic! Thank you to all the parents for coming along to share in our fun! :) |
croeso i flog
|
|