Tymor y Gwanwyn 2020 Cawsom ddiwedd tymor prysur iawn cyn y Nadolig gyda phawb yn llwyr fwynhau y parti, canu’n y dref, cyngherddau â’r holl weithgareddau crefft. Hoffem ddiolch hefyd i blant a rhieni am waith cartref ffantastig yn gysylltiedig â’r gofod. Pleser oedd gweld y plant yn mwynhau trafod a dangos eu gwaith gyda gweddill y dosbarth. We had a very busy end of term with everyone thoroughly enjoying the party, singing in town, concerts and all the craft activities. We would also like to thank the children and parents for fantastic space-related homework. It was a pleasure to see the children discussing and showing their work proudly to the rest of the class. Wrth ddechrau tymor newydd, mae Bl 3 yn brysur meddwl am gwestiynau er mwyn dod o hyd i wybodaeth am y Celtiaid. Mi fyddwn yn ymchwilio i Oes yr Haearn gan edrych ar dai crwn, ble roedd y Celtiaid yn byw, beth oeddent yn ei fwyta, eu dillad ayyb. Rydym yn edrych ymlaen at dymor prysur iawn yn llawn hwyl. As we begin a new term, the Yr 3 pupils are busy thinking about what they want to find out about the Celts. We will be investigating the Iron Age, looking at roundhouses, how and where the Celts lived, what they ate, what they wore etc. We are looking forward to a very busy, fun-filled term. |
croeso i flog
|
|