Blog cyntaf Blwyddyn 3 a 4 2015-2016!
Ein thema ni y tymor yma yw Byd Nad yw’n Bod! Yn ddiweddar, mwynheais i greu Llechwffan (sef anghenfil brawychus) yn ein gwaith Cymraeg a Celf. Hoffwn i ddysgu am rocedi neu Neil Armstrong (y dyn cyntaf ar y lleuad) nesaf. Yn ein gwersi Cymraeg dysgais y chwedl Cantre’r Gwaelod (ar ffurf Pie Corbett). Roeddem wedi ail-ysgrifennu y stori yma yn ein sesiwn Geirio Gwych. Dwi’n meddwl fod Geirio Gwych yn wych oherwydd dwi wrth fy modd yn ‘sgwennu! Dydw i ddim yn meddwl fod yna wahaniaethau mawr rhwng Bl.3 a Bl.4… ond mae’r gwaith ychydig yn anoddach ym Ml.4! Bum hefyd yn meddwl am, ac yn cynllunio, ein dosbarth delfrydol. Yn fy nosbarth delfrydol i hoffwn gael bochdew! Ysgrifennom ni reolau’r dosbarth (e.e siaradwch Gymraeg bob amser) a rheolau’r I-pads. Cawsom dasg eithaf heriol yn ddiweddar sef trefnu parti i dîm rygbi Cymru (i ddathlu eu hymdrechion yn Nhwrnament Cwpan y Byd Rygbi eleni). Cawsom £1,000 o gyllideb ac roedd yn rhaid i ni gyd-weithio i drefnu y bwyd, diodydd a’r adloniant! Nid oedd hyn yn dasg hawdd! Ond rydym i gyd yn gobeithio y bydd Warren Gatland a’i dîm yn llwyddiannus yn Nhwrnament Rygbi Cwpan y Byd.
Ym Ml.3 a 4 rydym yn mwynhau gwersi nofio bob wythnos. Mae dechrau ein gwersi nofio yn gyffrous iawn; fy hoff beth am ein gwersi nofio yw neidio i mewn a rhoi sblash enfawr i gyfeiriad Mr.Evans! Rwan, mae gennym ni Gyngor Ysgol, Eco Bwyllgor, E-Cadets a Dewiniaid Digidol; ac mae gan bob un fathodynau unigryw i ni eu hadnabod! Swydd y Dewiniaid Digidol yw gofalu am yr I-pads, ein helpu ar y cyfrifiaduron a llawer o bethau TGCh. Mae bod ym Mlwyddyn 3 a 4 Ysgol Gwenffrwd yn fendigedig!!!
Diolch am ddarllen.
Hwyl am y tro,
Emma
(yn blogio ar ran Blwyddyn 3 a 4)
Our theme this term is ‘Out of this world!’ (Byd Nad Yw’n Bod). As part of this theme, I enjoyed creating my very own ‘Llechwffan’ (a monster!). We are hoping to learn about space rockets and Neil Armstrong (the first man on the moon); this would be excellent! During our Welsh lessons, we recited the story of Cantre’r Gwaelod (using the Pie Corbett method). We have been recounting this story in our ‘Big Write’ sessions. I think ‘Big Writing’ is the best because I love writing! There’s hardly any difference between Year 3 and Year 4, but the work is harder in Year 4! We have also been considering and planning our ‘ideal classroom’ (ein dosbarth delfrydol); in my ideal class I would like a hamster as our class pet! We have also been writing our class rules (e.g. always try your hardest with all tasks/activities) and Ipad rules. We recently had quite a challenging task of organising a party for the Welsh rugby team (once they’ve finished competing in the World Cup!). We had a budget of £1,000 and had to organise the food, drinks and entertainment. Not an easy task! We are all hoping Sam and his team will continue to make us proud in this Rugby World Cup!
In Year 3 and 4 we go swimming every week this term. Swimming lessons are always exciting! My favourite part of our swimming lessons is jumping in and splashing Mr Evans! Now, we have a School Council, Eco-Committee, E-Cadets and Digital Wizards; all of them have their very own badges to help us recognise them and their role within the school. Our Digital Wizards’ job is to look after the iPads, help us on the computers, and other ICT tasks. Year 3 and 4 in Ysgol Gwenffrwd is amazing!
Thanks for reading.
Goodbye for now,
Emma
(Blogging on behalf of Year 3 and 4).