Blog Bl 3a4 Rhagfyr 2020
Wel am hanner tymor prysur! Er nad oedd gennym gyngerdd i’w baratoi ac ymarfer eleni, rydym wedi mwynhau canu a mynd i hwyl yr ŵyl yn y dosbarth. Rydym bellach wedi gorffen darllen ein nofel dosbarth ‘James a’r Eirinen Wlanog Enfawr’ ac roedd y plant i gyd wrth eu boddau yn gwylio’r ffilm.
Y dasg fwyaf y hanner tymor hwn oedd trefnu y Parti Nadolig! Roedd yr athrawon ar streic a roedd y dasg o drefnu yn disgyn ar y plant. Cawsom ddiwrnod bendigedig o’r dechrau i’r diwedd. Bu i’r plant bleidleisio ar Google Forms i nodi pa fwyd a diod roeddent eisiau, pa ffilm hoffent wylio a hyd yn oed pa ganeuon fyddai’n chwarae yn y dosbarth. Yn y bore roedd gemau a ffilm – heb anghofio’r popcorn wrth gwrs! Yn y prynhawn cawsom ddisgo llawn hwyl ar y buarth ac yna ymweliad rhithiol gan y dyn ei hun – Sion Corn! Roedd gwledd i ddilyn gyda bwyd parti i bawb. Diolch i chi blant am drefnu parti penigamp i’ch dosbarth ac i’r teuluoedd am eich cyfraniadau tuag at y parti.
Edrychwn ymlaen rwan at y flwyddyn newydd – a’r thema newydd. Gan i ‘I’m a Celebrity Get Me Out of Here’ ddod i Gastell Gwrych yn Abergele ym mis Tachwedd, rydym wedi ein ysbrydoli i fynd ‘Nôl Mewn Amser’ a dysgu am yr ‘Enwogion yn y Castell’. Felly, byddwn yn dysgu mwy am hanes a chwedlau Cymru yn ystod tymor y Gwanwyn.
Dymunwn Nadolig Llawen iawn i chi gyd!
Year 3 and 4 Blog – December 2020
Well what a busy half term this has been! Although we did not have a Christmas concert to prepare this year, we have had lots of fun leading up to the Festive season in class. We have finished our class novel ‘James and the Giant Peach’ and the children all enjoyed watching the film.
Our main task this half-term was to arrange a Christmas Party! The teachers were on strike and therefore the children were in charge of organising the fun. We had an amazing day from beginning to end. The children voted on Google Forms to choose: which food and drink they would like, which film to watch and even the Christmas songs that should be played in class. In the morning we played games and watched a film – without forgetting the popcorn! In the afternoon we had a disco on the school playground and a visit from the big man himself – Father Christmas! Our Christmas feast followed, with party food for all.
Looking forward to the New Year - and a new Theme. As ‘I’m a Celebrity Get me out of here’ recently came to Gwrych Castle in Abergele, we have been inspired to go back in time and learn about ‘celebrities in the Castle’. We will also be learning about the history and Welsh tales during the Spring term.
Wishing you all a Merry Christmas!