Mae’r wythnosau yn gwibio heibio ac mae bron yn ddiwedd y tymor yn barod! Rydym wedi bod yn brysur iawn yn parhau â’n thema sef ‘Dewch i Ddathlu’. Buom yn astudio priodasau ‘ddoe a heddiw’ a chymharu priodasau’r wlad yma gyda rhai Sbaeneg. Daeth Iwan i helpu ni i gynnal arolwg chwilod; cawsom ddiwrnod bendigedig yn darganfod bob math o greaduriaid bach!
The weeks are flying by and we’re almost at the end of term already! We’ve been busy continuing with our theme ‘Come and Celebrate’. We have studied weddings ‘now and then’ and compared weddings in this country with Spanish weddings. Iwan came to school to help us conduct a bug hunt; we had a fantastic day discovering all sorts of creatures! ‘Dewch i Ddathlu!’ yw ein thema ar gyfer y tymor yma ac rydym yn edrych ymlaen i ddysgu mwy am ddathliadau amrywiol gan gynnwys rhai ar draws y byd. Wythnos diwethaf buom yn casglu syniadau am beth hoffem ei ddysgu ac roedd pawb yn awyddus i rannu’r hyn oeddent yn gwybod yn barod. Byddwn yn astudio dathliadau megis penblwyddi, priodas, bedydd, Eisteddfodau, Cymru a’r Gemau Olympaidd.
‘Come and Celebrate!’ is our theme this term and we are looking forward to learning more about different celebrations including those around the world. Last week we collected ideas about what we would like to learn during the theme and everyone was keen to share their own experiences. We will be studying Wales, birthdays, weddings, christenings, the Eisteddfod, and the Olympic games....to name just a few! Deinosoriaid yw ein thema am y tymor ac rydym wedi cael hanner tymor llawn hwyl a brwdfrydedd i gychwyn y thema. Rydym ni wedi dechrau ein gwaith o greu model deinosor allan o jync gan ddilyn ein cynlluniau fel y gwelwch o’r lluniau isod. Roedd pawb wrth eu boddau yn creu diod hud i’r Deinosoriaid fel rhan o’n gwaith cynhwysedd a buom yn brysur yn defnyddio ap Thinglink i rannu ffeithiau am ddeinosoriaid gwahanol. Rydym wedi darllen nifer o lyfrau o gyfres ‘Owain a’r Deinosoriaid’, ac ysgrifennu dyddiadaur Owain oedd ein tasg Geirio Gwych wythnos yma. Byddwn yn parhau â’n thema Deinosoriaid ar ôl hanner tymor ac rydym yn awyddus i ddysgu mwy!
Our theme for the term is Dinosaurs and we’ve had a busy start with everyone showing enthusiasm and interest in all aspects of the topic. We’ve started our junk modelling task of creating a dinosaur by following our plans as you can see from the pictures below. Everybody enjoyed creating the ‘Dinosaurs Magical Drink’ during our capacity work and have been busy using the Thinglink app to share interesting facts about different dinosaurs. We have read a number of books from the ‘Harry and the Dinosaurs’ series and writing Harry’s diary was our Big Writing task this week. We will be continuing with our Dinosaur topic after half term and we’re looking forward to learning more! Mae wedi bod yn hanner tymor llawn bwrlwm wrth i ni barhau â’n thema sef ‘Ein Bywydau Bendigedig’. Buom yn astudio Awstralia ac yn dysgu am anifeiliaid, cerddoriaeth a phobl yr wlad. Mae’r Nadolig yn agosau ac mae plant Blwyddyn 1 a 2 yn brysur yn creu cardiau Nadolig, calendrau ac addurniadau. Roedd ein Sioe Nadolig ‘Santa ar Streic’ yn llwyddiant aruthrol – gobeithio eich bod wedi mwynhau! Daeth Gwawr o’r gwasanaeth dân i’n gweld wythnos diwethaf i drafod pwysigrwydd cadw’n ddiogel a pheidio cyffwrdd matsys neu tanwyr. Cafodd y plant gwaith cartref i sicrhau bod ei larwm mwg yn gweithio ac i atgoffa oedolion i gadw matsys/tanwyr o golwg plant.
It has been a busy half term as we continue with our theme ‘Marvellous Me!’ We have been studying Australia learning about the animals, music and people. Christmas is nearly upon us and Year 1 and 2 are busy creating Christmas cards, calendars and decorations. Our show ‘Santa ar Streic’ was a roaring success – we hope you enjoyed it! Gwawr from the fire service came to discuss the importance of not touching matches or lighters. The children were given homework to check that their smoke alarms work and to remind adults to keep lighters/matches out of reach. Dyma ni wedi cychwyn blwyddyn newydd ym mlwyddyn 1 a 2. Mae pawb wedi setlo i’w dosbarthiadau erbyn hyn ac yn brysur yn gweithio ar ein thema newydd sef ‘Ein Bywydau Bendigedig’. Dydd Llun diwethaf aethom ar drip i Dyffryn Maesglas i ymweld â'r hen ysgol a’r fferm. Roedd pawb wedi mwynhau ac wedi dysgu llawer am sut oedd bywyd ysgol ers talwm – roedd pawb yn falch bod nifer o bethau wedi newid erbyn hyn! Fel rhan o’n gwaith arian o fewn ein gwersi mathemateg, aethom i siopa yn Tesco. Roedd rhaid i bawb helpu i ffurfio’r rhestr siopa, yna chwilio am y prisiau mwya’ rhesymol yn y siop… felly cofiwch ofyn am help i ffeindio’r bargeinion tro nesaf ewch i siopa!
Here we are at the start of a new term in Year 1 and 2. By now, everybody has settled into their classes and are busy working on our new theme – ‘Marvellous Me’. Last Monday, we went on a trip to Greenfield Valley to visit the Victorian school and look around the farm. Everybody enjoyed themselves and learnt a lot about school life during the Victorian times – everybody was pleased that quite a few things have changed since then! As part of our money work in our mathematics lessons we went shopping to Tesco. Everybody helped to write the shopping list and then look for the cheapest items to buy…so remember to ask for help looking for bargains next time you go shopping! Rydym wedi cyrraedd diwedd y flwyddyn ysgol ac wedi cael pythefnos prysur iawn. Roedd pawb wedi mwynhau ein diwrnod Môr Ladron ac wedi ymuno â’r hwyl yn gwneud pats llygaid, het môr leidr a chacennau trysor! Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau ymuno â ni yn yr ysgol. Cawsom ddiwrnod gwych yn Amgueddfa Forwrol Lerpwl er gwaetha’r glaw! Roedd pawb wedi mwynhau edrych o gwmpas a dysgu sut i weithio ar llong môr lardon fel y gwelwch o’r lluniau.
The end of the school year is upon us and we’ve had a busy few weeks. Everyone enjoyed our pirate themed day and got into the spirit of things making eye-patches, hats and treasure cakes! We hope you as parents enjoyed coming to see what we get up to in class. Our trip to the Maritime Museum in Liverpool was a great day despite the rain! Everyone enjoyed looking around the museum and learning how to be crew members as you can see in the pictures. Prynhawn Dydd Mercher a Dydd Gwener wythnos yma, cawsom ymweliad gan Techniquest Glyndŵr. Cynhaliwyd dau weithdy gwahanol – un ar y corff a phwysigrwydd bwyta’n iach a’r llall ar weithgareddau rhif yn y swyddfa bost. Roedd pawb wedi mwynhau’r gweithgareddau ymarferol fel y gwelir o’r lluniau.
Techniquest Glyndŵr came to visit Year 1 & 2 on Wednesday and Thursday afternoon this week. They held two workshops with the children – the first on the body and healthy eating, and the second on number activities in the post office. Everyone enjoyed the hands on activities as you can see in the pictures. Cawsom ymweliad gan Gwawr o’r gwasanaeth tân wythnos diwethaf. Roedd hi’n esbonio ychydig am ei gwaith ac yn trafod pwysigrwydd larwm mwg mewn tai – rwy'n siwr bod y plant wedi bod yn holi a chwilio amdanynt adref! Roedd y disgyblion wrth eu boddau yn gweld ac yn trio rhai o’r dillad roedd rhaid i Gwawr ei wisgo yn ei gwaith ac roedd ganddynt nifer o gwestiynau.
Gwawr from the fire service came to visit Years 1 & 2 last week. She explained a little about her job and discussed the importance of a smoke alarm in the house – I’m sure they’ve all been asking and looking for them at home! They had a wonderful time seeing and wearing some of Gwawr’s uniform and they had many questions at the end of the talk. |
Blog Yr Uned Dan 7
Archif / Archives
July 2021
|
|