Mae Tymor yr Haf ar y gorwel ac rydym yn brysur yn paratoi ar gyfer ein thema newydd sef 'O Dreffynnon i Bendraw'r Byd!'. Byddwn yn ymweld â'r dref wythnos nesaf er mwyn cychwyn ein gwaith a sbarduno ein syniadau ar gyfer cyd-gynllunio ein hardaloedd dysgu yn y dosbarth. Llyfr 'Y Cawr Mwya Crand yn y Dre' gan Julia Donaldson bydd sail llawer o'm gwaith wrth i ni gymharu tref Siôn gyda Threffynnon. Wrth i'r thema datblygu byddwn yn astudio gwledydd o amgylch y byd megis Kenya, Awstralia a Sbaen ac yn cymharu diwylliant, ieithoedd, anifeiliaid a bwydydd. Bydd ein gwaith mathemateg ar gyfer y tymor yn cynnwys pwyso, amser, lluosi a rhannu, ffracsiynau a patrymau rhif, yn ogystal â'n gwaith mathemateg pen trwy sesiynau 'CLIC' yn ddyddiol. The Summer Term is just around the corner and we are busy preparing for our new theme - 'To Holywell and beyond!'. We will be visiting Holywell next week in order to begin our work and help gather ideas for activities in our areas of learning in class. 'The Smartest Giant in Town' by Julia Donaldson will form the basis for much of our work as we compare George's town with Holywell. As the theme develops we will study many different countries across the world including Kenya, Australia and Spain; comparing culture, food, animals and languages. Our maths work will include weight, time, multiplication and division, fractions and number patterns as well as our daily 'CLIC' mental maths sessions.
|