Dyma ni ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd, yn falch o gael croesawu’r holl ddisgyblion yn ôl wedi’r gwyliau ac yn barod i ddechrau ar ein taith yn ôl mewn amser i gyfnod yr Ail Ryfel Byd gyda’n thema ‘Gwrthdaro ac Heddwch’. Yn ystod y tymor byddwn yn rhoi sylw manwl i blant yn ystod y rhyfel, yn arbennig y faciwis, gan edrych ar agweddau megis pa fath o brofiadau cawsant yn eu cartrefi newydd, o ble ac i ble roeddynt yn cael eu hymcilio (ardaloedd ymcilio ac ardaloedd derbyn) a sut roedd gwahanol digwyddiadau yn ystod y rhyfel yn cael effaith ar y nifer o faciwis. Byddwn hefyd yn astudio y Blits, rôl merched yn ystod y rhyfel, y blacowt, llochesi a dogni bwyd. Edrychwn ymlaen i groesawu Shirley Williams i’r ysgol Dydd Gwener, Medi 27ain i gyflwyno hanesion ac arteffactau o’r cyfnod. Cyffrous iawn!
As we begin a new academic year, we’re pleased to welcome back the student after the holiday and are ready to embark on our journey back in time to the period of the Second World War with our theme ‘War and Peace’. During the term we will be paying particular attention to children during the war, especially the evacuees, by studying aspects such as what kind of experiences they had in their new homes, from where and to where were they evacuated (evacuation and reception areas) and how various events during the war had an impact on the number of evacuees. We will also be studying the Blitz, women’s role during the war, the blackout, shelters and food rationing. We look forward to welcoming Shirley Williams to the school on Friday, September 27th to present facts, stories and various artefacts from the period. Very exciting!