Gyntaf oll, hoffem ddweud pa mor falch ydym o weld yr holl blant yn ôl yr ysgol ar ôl cyfnod mor hir, a chanmol pa mor arbennig maent wedi bod yn ystod yr wythnosau diwethaf - DIOLCH YN FAWR!
Thema diddorol iawn sy’n cael ei hastudio gennym ym Mlwyddyn 5 a 6 tymor yma – Yr Oes Fictoria. Yn barod rydym wedi dysgu am y Frenhines Fictoria gan ysgrifennu portread disgrifiadol ohoni ac hefyd am un o ddynion fwyaf dylanwadol y cyfnod, Doctor Thomas Barnardo. Yn ystod y tymor, ein prif ffocws fydd ar blant y cyfnod gan gymharu ysgolion Fictorianaidd ag ysgolion heddiw, dysgu am blant oedd yn gorfod gweithio mewn melinau, pyllau glo, tlotai a.y.b. gan roi ffocws ar Hawliau Plant heddiw a sut roedd pobl fel Thomas Barnardo a Lord Shaftesbury yn gweithio’n galed i geisio gwella ansawdd bywyd plant.
Ein nofel dosbarth yw Street Child gan Berlie Doherty sy’n dilyn hanes bachgen o’r enw Jim Jarvis a pha heriau oedd yn gwynebu plant tlawd y cyfnod.
Ein ffocws ar gyfer gwaith Gwyddoniaeth yr hanner tymor cyntaf yw Grymoedd. Byddwn yn cynnal Ymchwiliad Gwyddonol i weld sut mae parasiwt yn gweithio. Byddwn yn amseru faint o amser mae gwahanol fathau o barasiwtiau yn ei gymryd i ddisgyn i’r llawr ac yn defnyddio ein sgiliau digidiol a rhifedd wrth i ni gofnodi ein canlyniadau a chreu a dadansoddi y graffiau.