The weeks have flown by and we’ve reached the end of term already. We’ve been very busy and everyone has really enjoyed our theme ‘Tremendous Trees’, particularly the book ‘Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll’. We had a fantastic day for our sports day; everybody cheered each other on and the lolly ice at the end was a big hit with all the children! Our ‘Fun Day’ was a definite highlight during this term – we most definitely had a lot of fun playing games and singing and dancing in the Jamboree.
Mae’r wythnosau wedi gwibio heibio ac mae’n ddiwedd y tymor yn barod. Rydym wedi bod yn brysur iawn ac mae pawb wedi mwynhau ein thema ‘Coed Campus’, yn enwedig y llyfr ‘Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll’. Cawsom ddiwrnod bendigedig ar gyfer ein mabolgampau; roedd pawb yn cefnogi ei gilydd a phawb wedi mwynhau’r loli-rhew ar y diwedd! Roedd ein ‘Diwrnod Hwyl’ yn uchafbwynt i’r plant tymor yma – yn bendant cawsom lawer o hwyl yn chwarae gemau ac yn canu ac yn dawnsio i’r Jambori. The weeks have flown by and we’ve reached the end of term already. We’ve been very busy and everyone has really enjoyed our theme ‘Tremendous Trees’, particularly the book ‘Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll’. We had a fantastic day for our sports day; everybody cheered each other on and the lolly ice at the end was a big hit with all the children! Our ‘Fun Day’ was a definite highlight during this term – we most definitely had a lot of fun playing games and singing and dancing in the Jamboree.
0 Comments
Rydym wedi bod yn brysur gyda’n gwaith ar y thema Brigddyn ac wedi mwynhau dysgu am dymhorau’r flwyddyn trwy ddarllen y llyfr yma a chanu cân y tymhorau. Roedd pawb wedi mwynhau mynd tu allan i gasglu brigau ac chreu Brigddyn ei hunain. Roedd ein gwaith Llythrennedd yn cynnwys ysgrifennu dyddiadur Mr Brigddyn yn dilyn ei daith yn ôl i’r goeden ac ysgrifennu llythyr at Siôn Corn. Fel rhan o’n gwaith Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd, buom yn ymarfer rhoi cyfarwyddiadau i’r Bee-Bot i fynd o amgylch y map gan ddilyn taith Mr Brigddyn. Rydym wedi bod yn brysur iawn yn ymarfer ein carolau Nadolig ac roedd pawb wedi mwynhau perfformio. Cawsom barti Nadolig llawn hwyl a sbri a mwynhaodd pawb y dawnsio a gemau parti gan gynnwys gêm ’rhoi’r trwyn ar Rwdolff’. Cofiwch edrych ar gyfrirf Seesaw eich plentyn pob Dydd Gwener i weld rhagor o weithgareddau dosbarth.
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r plant yn nôl i'r ysgol ym mis Ionawr pan fyddwn yn dechrau ar thema newydd sbon sef ‘Un tro.....’ Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd! We have been very busy with our theme ‘Stickman’ and have enjoyed learning about the different seasons by reading the book and singing the seasons song. Everyone thoroughly enjoyed going outside to collect sticks and then creating their very own Stickman. Our Literacy work included writing the diary of the Stickman and writing a letter to Father Christmas. As part of our Knowledge and Understanding of the World work, we practised using instructions to send the Bee-Bot around the map following Stickman’s journey. We have been very busy practising our Christmas Carols which the children thoroughly enjoyed performing. We had a fun filled Christmas party and everyone enjoyed dancing and playing party games including ‘pin the nose on Rudolph’. Remember to check your child’s Seesaw account every Friday to see some of the other activities that they have been doing in class. We are looking forward to welcoming the children back in January when we will start a brand new theme - ‘Once upon a time...’. We wish you all a Merry Christmas and a Happy New Year! Mae disgyblion Blwyddyn 1 a 2 wedi setlo yn wych i drefniadau’r Uned Dan 7 a phawb wrth eu boddau yn bod yn nol yn yr ysgol ar ôl cyfnod mor hir. Mae pawb wedi mwynhau ein thema am yr hanner tymor sef ‘Y Gryffalo’. Yn ystod yr hanner tymor rydym ni wedi defnyddio’r stori boblogaidd yma i sbarduno ein dychymyg ac i arwain ein gwaith dosbarth. Rydym ni wedi defnyddio iaith ddisgrifiadol wrth i ni gasglu ansoddeiriau am y Gryffalo ac ymarfer defnyddio’r patrymau brawddeg gywir wrth ddisgrifio ni ein hunain. Fel rhan o’n gwaith Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd, buom yn astudio anifeiliaid y goedwig a’r gadwyn fwyd. Cawsom nifer o gyfleoedd i fwynhau ymgyfarwyddo â’r stori a’r cymeriadau, yn ogystal â’r awdures sef Julia Donaldson. Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r plant wedi mwynhau actio’r stori gyda phypedau, gwneud het cymeriad o’r stori, a mesur olion traed y creaduriaid( i enwi ambell weithgaredd!). Rydym ni wedi bod yn ymarfer mewngofnodi ar Hwb a defnyddio’r adnoddau J2e er mwyn creu lluniau o’r stori yn ogystal â chreu pictogram neu graff i ddangos hoff gymeriad y dosbarth. Cofiwch edrych ar gyfrif Seesaw eich plentyn bob Dydd Gwener i weld rhagor o weithgareddau’r Uned Dan 7.
Year 1 and 2 pupils have settled into the Under 7’s Unit really well and are all enjoying being back at school after such a long period of time at home. They have shown enthusiasm towards our theme for the half term; ‘The Gruffalo’. We have used this popular story to spark our imaginations and help us plan our class work. We have been using descriptive language by collecting adjectives to describe the Gruffalo and practising using the correct sentence patterns when describing ourselves. As part of our Knowledge and Understanding of the World work, we studied forest animals and the food chain. There has been numerous opportunities to enjoy familiarising ourselves with the story and characters, as well as the author, Julia Donaldson. Over the past few weeks, the children have enjoyed acting out the story using puppets, making a hat of a character from the story, and measuring the footprints of the different animals (to name just a few activities!). We have been practising logging in to Hwb in order to use the resources on J2e to create pictures from the story and also to create a pictogram or graph of the class’ favourite character. Remember to check your child’s Seesaw account every Friday to see more of what we’ve been up to in the Under 7’s Unit. Deinosoriaid Difyr yw ein thema am yr hanner tymor ac rydym yn frwdfrydig i ddysgu mwy am y creaduriaid anhygoel yma . Byddwn yn dechrau ein gwaith trwy greu model deinosor allan o jync gan ddilyn ein cynlluniau. Cawn gyfle i greu diod hud i’r Deinosoriaid fel rhan o’n gwaith cynhwysedd a byddwn yn defnyddio ap Thinglink i rannu ffeithiau am ddeinosoriaid gwahanol. Byddwn yn darllen nifer o lyfrau o gyfres ‘Owain a’r Deinosoriaid’ er mwyn sbarduno ein tasgau Geirio Gwych ac yn defnyddio’r llyfr ‘Deinosor’ i ddysgu ffeithiau am ddeinosoriaid a defnyddio Dull Pie Corbett i’w adrodd a chofnodi. Cofiwch ddychwelyd eich Gwaith Cartref erbyn diwedd yr wythnos er mwyn i ni ddefnyddio eich syniadau chi i gynllunio rhagor o weithgareddau.
Our theme for this half term is Dinosaurs and everybody is looking forward to learning more about these impressive creatures. We will start our theme by creating a dinosaur out of junk, following our individual plans. As part of our capacity work we will be creating a ‘Dinosaurs Magical Drink’ and we will be using the Thinglink app to share interesting facts about different dinosaurs. We will read a number of books from the ‘Harry and the Dinosaurs’ series to inspire our Big Writing tasks and will use the book ‘Deinosor’ to learn facts using the Pie Corbett method to recite and record them . Remember to return your Homework by the end of the week so we can incorporate your ideas into our planning for the theme. Roedd pawb o Flwyddyn 1 a 2 wrth eu boddau yn cael eistedd yn y tractor Lamborghini a'r Polaris - diolch yn ofnadwy i Mr a Mrs Gruffydd o gwmni Clwyd Agri am ddod a nhw i'r ysgol i ni!
Everybody in Year 1 and 2 had a great time sitting in the Lamborghini tractor and Polaris - a big thank you to Mr and Mrs Gruffydd from Clwyd Agri for bringing them to school! Dyma ni wedi cychwyn blwyddyn newydd ym Mlwyddyn 1 a 2. Mae pawb wedi setlo i’w dosbarthiadau erbyn hyn ac yn brysur yn gweithio ar ein thema newydd sef ‘Ar y Fferm’. Mae pawb wedi dangos brwdfrydedd ar ddechrau ein thema ac yn edrych ymlaen at ddysgu mwy. Byddwn yn edrych ar hanes peiriannau fferm, ffermio o gwmpas y byd, ac yn creu cynlluniau a mapiau yn deillio o lyfrau ‘Magi’n Mynd am Dro’ a chyfres ‘Fferm Tŷ Gwyn’. Byddwn yn darllen nifer o lyfrau Cyfres Cae Berllan gan ganolbwyntio ar lyfr ‘Cyfrinach y Bwgan Brain’. Yn ystod y tymor byddwn yn parhau gyda ein sesiynau Clic dyddiol ac yn edrych ar trefnu rhifau, odrifau ac eilrifau, arian, y tymhorau a dyddiau’r wythnos, a gwaith adio a thynnu yn ein gwersi Mathemateg.
Here we are at the start of a new term in Year 1 and 2. By now, everybody has settled into their classes and are busy working on our new theme – ‘On the Farm’. The children have all responded enthusiastically to our new topic and are looking forward to learning more. We will be looking at the history of farming, farming around the world, and creating maps and plans of farms following our work on the books ‘Rosie’s Walk’ and the ‘Fferm Tŷ Gwyn’ series. We will be reading a number of ‘Apple Tree Farm’ books, concentrating on ‘Scarecrow’s Secret’ . During the term we will continue with our daily Clic sessions and look at ordering numbers, odd and even numbers, the seasons and days of the week, and addition and subtraction work in our Mathematics lessons. |
Blog Yr Uned Dan 7
Archif / Archives
July 2021
|